P-05-1022 Dilyn Llywodraeth yr Alban a dysgu hanes LGBTQ Cymru ym mhob ysgol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Natalie Bowen, ar ôl casglu cyfanswm o 116 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Fel rhywun a dreuliodd ei hieuenctid yng nghysgod Adran 28, mae prinder addysg LGBTQ+ yn yr ysgolion wedi effeithio ar fy mywyd cyfan. Mae’n annerbyniol i’r genhedlaeth nesaf o bobl LGBTQ+ dreulio’u hieuenctid hwythau yn yr un modd. Mae gan Gymru hanes LGBTQ+ cyfoethog ac amrywiol ac rydym yn credu y gellid creu amgylchedd mwy diogel a mwy goddefgar i bawb pe bai’n cael ei ddysgu mewn ysgolion.
Gwybodaeth Ychwanegol
Norena Shopland yw’r hanesydd LGBTQ mwyaf blaenllaw yn y byd. Mae ganddi fwy na digon o wybodaeth i fedru cynorthwyo’r llywodraeth yn y cyswllt hwn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Rhondda
· Canol De Cymru